Rhif y ddeiseb: P-05-902

Teitl y ddeiseb: Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)

Testun y ddeiseb:

Mae GIG Lloegr wedi gwneud penderfyniad arwyddocaol i sgrinio a chefnogi tadau â'u hiechyd meddwl os oes gan eu partner salwch iechyd meddwl amenedigol.

Hunanladdiad sy'n bennaf cyfrifol am farwolaeth dynion o dan 50 oed, a chan fod dadl newydd am gael ei chynnal yn Senedd y DU, rydym yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ddilyn  hyn a chyllido iechyd meddwl tadau newydd, oherwydd heb ddim cymorth gall effeithio ar famau a datblygiad y plentyn.

Canfu adroddiad yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol ar Eni Plant, Dads in Distress, fod 38% o dadau yn poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain a bod 73% yn poeni am iechyd meddwl eu partneriaid.

Mae 1 o bob 10 tad yn dioddef iselder amenedigol sy'n edrych yn wahanol â mwy o ddicter, yfed, cam-drin sylweddau, ac wrth gwrs mae tadau'n ei chael hi'n anodd bondio â'u plant hefyd.

Mae pwysau tadolaeth yn wahanol na blynyddoedd yn ôl. Gyda chyplau o'r un rhyw a thadau sy'n aros gartref, mae angen sefydlu cefnogaeth i dadau.

Oherwydd diffyg cefnogaeth a sgrinio, mae tadau yn aml yn defnyddio gwasanaethau eraill ar adeg argyfwng ar ôl i'r berthynas ddod i ben.

 Mae arbrawf 'Still Face' gyda thadau yn egluro pwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl tadau oherwydd pwysigrwydd y 1001 diwrnod cyntaf o'r cyfnod cynenedigol ac ôl-enedigol.

 Wrth gefnogi pob rhiant ceir canlyniadau llawer gwell i'r teulu cyfan.

 Hoffem i Gymru ddilyn cynllun tymor hir newydd GIG Lloegr a chynnwys tadau.

 


1.        Y cefndir

Mae'r cyfnod amenedigol yn dechrau ar ddechrau'r beichiogrwydd ac yn para tan ddiwedd y flwyddyn gyntaf ar ôl geni babi. Mae a wnelo iechyd meddwl amenedigol â iechyd a lles emosiynol a seicolegol menywod beichiog a'u plant, eu partneriaid a'u teuluoedd. 

Yn ystod beichiogrwydd (y cyfeirir ato hefyd fel y cyfnod “cynenedigol”) ac ar ôl genedigaeth plentyn (a elwir yn aml yn gyfnod “ôl-enedigol”), mae menywod mewn mwy o berygl o wynebu problemau iechyd meddwl.

Mae gwefan MIND yn nodi bod astudiaethau'n awgrymu y gall partneriaid hefyd wynebu problemau iechyd meddwl amenedigol. Mae gwybodaeth bellach ar wefan MIND (o 2016) yn tynnu sylw at y ffaith bod astudiaethau i iselder ôl-enedigol ymhlith tadau yn awgrymu bod tua un o bob pump o ddynion yn profi iselder ar ôl dod yn dadau.

Mewn eitem newyddion ar wefan GIG Lloegr ym mis Rhagfyr 2018, dyfynnir Prif Weithredwr GIG Lloegr yn dweud bod tystiolaeth gynyddol o’r risg i iechyd meddwl a wynebir gan dadau newydd a thadau sydd ar fin cael plentyn. Yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl genedigaeth babi, mae amcangyfrifon yn dangos symptomau pryder ac iselder ymysg dynion ar gyfradd hyd at un o bob 10, a bydd un o bob pump o fenywod yn wynebu problem iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth .

Yn ôl yr elusen NCT, yr amser pennaf ar gyfer iselder ôl-enedigol ymhlith dynion yw rhwng tri a chwe mis ar ôl yr enedigaeth ac fel gydag iselder ôl-enedigol ymhlith mamau, yn aml ni cheir diagnosis.

Mae gwefan MIND yn rhestru ffynonellau cefnogaeth a allai fod ar gael i dadau sydd wedi datblygu problemau iechyd meddwl, gan gynnwys ymweld â meddyg teulu a chysylltu â sefydliadau arbenigol.

 

 

 

Datblygiadau yn Lloegr

Cyhoeddodd GIG Lloegr ym mis Rhagfyr 2018 y bydd partneriaid menywod beichiog a mamau newydd sydd eu hunain yn dioddef o bryder, iselder ysbryd neu anhwylderau mwy difrifol fel seicosis yn cael cynnig asesiad iechyd meddwl cynhwysfawr yn awtomatig gan eu cyfeirio at gefnogaeth broffesiynol os oes angen.

Bydd partneriaid mamau beichiog a mamau newydd sy'n ddifrifol wael yn cael cynnig ystod o help fel cymorth gan bobl yn yr un sefyllfa, sesiynau therapi ymddygiadol i gyplau a mesurau ymyrryd teulu a rhianta eraill mewn lleoliadau cymunedol sy'n arbenigo ym maes iechyd meddwl amenedigol neu atgyfeiriad i raglen therapi siarad seicolegol.  Nodir gwybodaeth am y camau y mae GIG Lloegr yn eu cymryd mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol yn y cyhoeddiad.

 

2.     Y camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Mewn gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor ar 13 Awst 2019, cyfeirir at weledigaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru,   Gofal mamolaeth yng Nghymru: gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol (2019-2024), gyda gofal teulu yn elfen ganolog o'i bum thema graidd.  Dywedir bod y polisi hwn yn sicrhau bod bydwragedd a staff mamolaeth yn dilyn dull cyfannol o rianta, gan gynnwys cydnabod a chanfod materion iechyd emosiynol a meddyliol ac atgyfeirio'n gynnar at gefnogaeth briodol.

Mae'r Gweinidog yn nodi bod gwelliannau diweddar mewn gwasanaethau iechyd ymweliadol wedi cynnwys datblygu dull 'tîm o amgylch y teulu' ynghyd â monitro unrhyw faterion iechyd emosiynol neu feddyliol trwy ddarpariaeth gyffredinol 'Rhaglen Plant Iach Cymru'.

Disgwylir i bob bwrdd iechyd weithio tuag at fodloni safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwasanaethau integredig iechyd amenedigol yng Nghymru a ddatblygwyd gan Grŵp Llywio Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru Gyfan (AWPMHSG) erbyn mis Mawrth 2020. Mae'r safonau hyn yn cynnwys ystyried iechyd meddwl a lles tadau/partneriaid.

Mae'r camau eraill sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd meddwl amenedigol yn ôl y Gweinidog yn cynnwys:

§  gweithredu'r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) sy'n darparu gwasanaethau yn gynnar trwy'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol gyda gwasanaethau arbenigol hefyd yn cael eu darparu;

§  datblygu gwasanaethau cymunedol arbenigol ymhellach, gyda gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol wedi'u cynnwys fel maes blaenoriaeth ar gyfer y cyllid gwella gwasanaethau a ddechreuodd yn 2019, ac

§  ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ar gyfer 2019 i 2022, sy'n cynnwys gwella mynediad ac ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol fel maes blaenoriaeth.

3.     Y camau gweithredu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ei adroddiad ar Iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru. Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn ystyried y ddarpariaeth gyffredinol o wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.  Un o nodweddion cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd ystyried y llwybr gofal clinigol presennol i gleifion ac ystyried a yw gwasanaethau gofal sylfaenol yn ymateb mewn modd amserol ar hyn o bryd i ddiwallu anghenion mamau, tadau a'r teulu ehangach o ran iechyd meddwl a llesiant emosiynol yn ystod beichiogrwydd a'r flwyddyn gyntaf ym mywyd babi.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a dderbyniwyd, mae un o'r argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud â'r gefnogaeth arbenigol sydd ar gael i famau, tadau a'u plant:

Argymhelliad 22.  Bod Llywodraeth Cymru’n ystyried datblygu rôl ymwelydd iechyd sy’n arbenigo mewn iechyd amenedigol a babanod yng Nghymru i gysylltu â CAMHS a gwasanaethau iechyd meddwl babanod a gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol gyda’r gwasanaethau hynny, gan ddarparu cymorth arbenigol i famau, tadau a’u plant, a rhoi hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghori arbenigol i’r gweithlu blynyddoedd cynnar ac ymwelwyr iechyd ehangach, yn enwedig mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ymlyniad a bondio.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn gan nodi mai byrddau iechyd sydd i bennu eu hanghenion staffio o'u dyraniad presennol tuag at ddarparu gwasanaethau cymunedol.  Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru hefyd fod Rhaglen Plant Iach Cymru yn cynnwys ystod gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar ar sail tystiolaeth, ynghyd â chyngor ac arweiniad i gefnogi rhianta. Dywedir bod y rhaglen yn cynnig asesiad arferol gan ymwelwyr iechyd o ymlyniad a bondio i gefnogi perthynas gadarnhaol rhwng rhieni a phlant ac i hybu iechyd a gwytnwch emosiynol ymhlith mamau a theuluoedd. 

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwaith sy’n mynd rhagddo i wella mynediad at therapïau seicolegol ar gyfer menywod amenedigol (a dynion lle bo angen) yn cael ei flaenoriaethu o ystyried y cysylltiad sydd wedi’i sefydlu rhwng salwch amenedigol ac iechyd a datblygiad plentyn.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn.  Ym mis Ionawr 2019, darparodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth ddilynol i'r Pwyllgor mewn perthynas â chynnydd ei waith ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol, a oedd yn cynnwys manylion y gwaith sy'n cael ei wneud i wella mynediad at therapïau seicolegol.

 

 

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.